Cydweithiodd RedSeam ag Opera Cendlaethol Cymru a vere VR ar wythnos o ymchwil a datblygu i archwilio posibiliadau ar gyfer perffomiad byw i bawb mewn gofof digidol ac XR sy’n esblygu.
Gweithiodd tri unigolyn creadigol (Sarah Angliss, Andy Staples a Domonic White) gyda chorws, cerddorfa a thîmau rheoli technegol / llwyfan Opera Cenedlaethol Cymru yn eu cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i:
- Ystyried ffyrdd newydd o drosglwyddo perfformiadau byw ar raddfa fawr i’r sgrin, ar-lein ac i fod yn brofiad rhithiol, mewn ffordd ddilys.
- Archwilio’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu ffurfiau newydd ar gyfer cynulleidfaoedd y dyfodol.
- Creu cynnwys gwreiddiol ar gyfer llifau refeniw newydd a sicrhau system ddemocrataidd o ran hygyrchedd i gynulleidfaoedd na chânt eu gwasanaethu’n ddigonol.
Dywedodd Sarah Angliss: “Mae archwilio syniadau newydd gyda chorws neu gerddorfa lawn yn fraint mor annisgwyl, ac roedd yn deimlad mor dda cael ein croesawu gan WNO a chael gweithio mewn amgylchedd mor gadarnhaol a oedd yn annog dull o ymholi agored.”
Ychwanegodd Andy Staples: “Bu’r wythnos yn Opera Cenedlaethol Cymru yn un hael o ran ysbryd, amser, arbenigedd artistig a mewnwelediad, gyda chymorth technegol llawn – pawb yn gweithio i greu gofod i ystyried yr hyn sy’n gwneud opera yn un o’r ffyrdd gorau i adrodd straeon, a sut allwn ni helpu i rannu a datblygu ei dyfodol.”
Dywedodd Domonic White: “Bu’n fraint o’r mwyaf cael ystyried ffyrdd newydd o gyfleu a rhannu agosatrwydd ac urddas opera, a gaiff ei pherfformio gan berfformwyr mor hael a medrus, a’r holl unigolion hynny sy’n eu cefnogi y tu ôl i’r llen.”
Prosiect a ariennir gan Media Cymru yw hwn. Cydweithrediad yw Media Cymru er mwyn gwneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hwb byd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau.
Dywedodd Bethan Jones, Cyd-gyfarwyddwr Creadigol REDSEAM: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Media Cymru a phartneriaid WNO a Vere VR am ddarparu cyfle cyffrous a phrin iawn i archwilio’r posibiliadau o ddatblygu ffurfiau celfyddydol newydd ar gyfer y sgrin a chyflwyno perfformiadau ar raddfa fawr i gynulleidfaoedd newydd.”
Ategodd Cyfarwyddwyr Cyffredinol WNO, Adele Thomas a Sarah Crabtree: “Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gael gweithio mewn partneriaeth â REDSEAM i edrych ar ffyrdd annisgwyl ac arloesol o rannu pŵer opera gyda chynulleidfaoedd newydd.
“Mae cydweithio gyda’r timau creadigol yn REDSEAM a Vere VR wedi bod yn gyfle ysbrydoledig i arbrofi gyda sut mae perfformiadau byw ar raddfa fawr yn gallu trosi’n amgylcheddau digidol a throchol. Mae prosiectau fel hyn yn galluogi i ni gyfuno rhagoriaeth artistig ag arloesedd technolegol ac ymdeimlad chwareus, gan ein helpu ni i ailddychmygu sut all opera gyrraedd a denu cynulleidfaoedd, nawr ac yn y dyfodol.”
Dywedodd Sarah Beauclerk, Cyfarwyddwr VERE VR: “Aeth yr wythnos yn ei blaen i ddatgelu un rhodd anhygoel ar ôl y llall – gan ddwyn ynghyd amrywiol egnïon a doniau, gweithio gyda harddwch ac ysbryd rhyfeddol Opera Cenedlaethol Cymru, a chydarbrofi; a chael syniad o sut fydd adrodd straeon trochol yn datblygu yn y dyfodol.”
