Hyfforddiand i Gyfarwyddwyr Newydd Ariennir gan Ffilm Cymru

Mai, 2026

Ym mis Ionawr 2026 – cefnogodd Ffilm Cymru gwmni RedSeam, mewn cydweithrediad â Miners Studios Cymru, i hyfforddi a chefnogi gwneuthurwyr ffilm newydd yn ardal Rhosllannerchrugog / Wrecsam fel rhan o ddigwyddiadau Canmlwyddiant Sefydliad Glowyr Rhos (Y Stiwt).

Datblygodd a chyfarwyddodd y 3 gwneuthurwr ffilmiau newydd llwyddiannus, ffilm fer yr un ar thema bywyd yn yr ardal lofaol ôl-ddiwydiannol dan fentoriaeth y cwmnïau,

Mae O’r Dyfnder i’r Goleuni  gan Rafael Cavellini yn ymateb barddonol i’r haenau yn y gymuned a chafodd ei ffilmio ym mhentref Rhosllannerchrugog.

Ysbrydolwyd The Lamp That Never Went Out  gan Adam Crump gan hanes Trychineb Gresford ym 1934 a chafodd ei ffilmio yn Amgueddfa Achub y Glowyr yn Wrecsam.

Ffilmiwyd Ticking Away gan Ryan Pridding yng Nghlwb Glofa’r Hafod yn y Rhos. Mae hen löwr yn un o’r ychydig sydd ar ôl sy’n cofio’r diwydiant glo a thynged hen ffrind yn y pwll glo.